-

Polisi Dwyieithog Barclays

Datganiad Polisi

Mae Barclays yn ymroddedig i’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, gan gydnabod y Gymraeg yn iaith gydradd â’r Saesneg yng Nghymru.
Mae ein polisi dwyieithog yn nodi’r egwyddorion cyffredinol yr ydym am eu dilyn wrth gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Mae’r polisi yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn, a byddwn yn parhau i ystyried datblygiad y polisi wrth i bolisïau, gwasanaethau a mentrau newydd gael eu cyflwyno.

Arwyddion

Bydd yr arwyddion parhaol mewn llefydd cyhoeddus yn ddwyieithog, tu mewn a thu allan i ganghennau.

Nwyddau a Thaflenni

Bydd Barclays yn ymdrechu i sicrhau bod y taflenni am nwyddau craidd sy’n cael eu harddangos yng Nghymru ar gael yn Gymraeg. Efallai y cyfyngir ar hyn weithiau gan realiti masnachol. Bydd y nwyddau a’r deunydd ysgrifenedig yr un fath o ran ansawdd.

Delwedd Gorfforaethol

Bydd deunydd ysgrifennu wedi’i bersonoli ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys: cardiau busnes, slipiau cyfarch, tudalennau blaen ffacs.

Peiriannau twll yn y wal

Yng Nghymru cewch ddewis defnyddio ein peiriannau arian twll yn y wal yn Gymraeg.

Staff sy’n siarad Cymraeg

Mae’r staff sydd ar gael i siarad Cymraeg mewn canghennau yn amrywio o ardal i ardal. Er enghraifft, fel y gellir disgwyl mae’r canran o staff sy’n siarad Cymraeg yng ngogledd-orllewin a de-orllewin Cymru yn llawer uwch nag mewn ardaloedd eraill. Pan fo’n bosibl, caiff unrhyw gwsmer sy’n gofyn am gael siarad â rhywun yn Gymraeg y dewis i wneud hynny.

Bydd staff sy'n siarad Cymraeg mewn cangen yn gwisgo bathodyn cydnabyddedig gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Gwasanaeth Ffôn Cymraeg

Mae gan Barclays wasanaeth ffôn sy’n unswydd ar gyfer siarad Cymraeg a’r rhif yw 0333 202 7450. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu hwnt i’r oriau swyddfa hyn caiff cwsmeriaid eu cyfeirio i’n canolfannau Saesneg. O dan rai amgylchiadau bydd yn rhaid trosglwyddo eich galwad i ganolfannau arbenigol eraill na fydd o bosibl yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg oherwydd rhesymau ymarferol.

Recriwtio

Lle bo’n addas byddwn yn ystyried gallu ieithyddol fel rhan o gasgliad o sgiliau wrth asesu am swyddi yng Nghymru. Wrth hysbysebu’n allanol byddwn yn ystyried y dewis o gyhoeddi hysbyseb yn ddwyieithog neu yn Gymraeg yn unig.

Llythyrau

Bydd Barclays yn ymateb yn Gymraeg i unrhyw lythyrau a dderbynnir yn Gymraeg.

Gohebiaeth arall

Er bod hyn yn cael ei adolygu’n rheolaidd, mae ein realiti masnachol ar hyn o bryd yn golygu nad yw pob un o’n llythyrau safonol ar gael yn Gymraeg. Mae Barclays yn cynnig y canlynol yn Gymraeg:

  • Llyfrau siec
  • Slipiau credyd
  • Ffurflenni gorchymyn banc

Sieciau wedi’u llenwi yn Gymraeg

Mae Barclays yn derbyn sieciau wedi’u llenwi yn Gymraeg.

Cysylltiadau â’r cyfryngau

Pan fyddwn yn gwneud datganiad i’r wasg, bydd llefarydd sy’n siarad Cymraeg ar gael.

Proffil o’r Gymuned

Mae Buddsoddi yn y Gymuned yn rhan bwysig iawn o’n gwaith yn Barclays.  Rydym yn credu ei bod hi’n bwysig iawn i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym ni’n gweithio ynddynt.

O dan ein rhaglen fyd-eang, Banking on Brighter Futures, rydym yn cefnogi pobl dan anfantais i gael annibyniaeth a diogelwch ariannol, gan ddefnyddio ein harbenigedd fel sefydliad gwasanaethau ariannol i wneud gwahaniaeth cymdeithasol mawr, tu hwnt i ddarparu arian yn unig.  Yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ar ein rhaglen Sgiliau Ariannol Barclays sy’n cefnogi pobl i ddatblygu eu gallu ariannol ac yn helpu pobl ddiamddiffyn i reoli eu harian.

Gwasanaeth Cyfieithu

Bydd Barclays bob amser yn defnyddio sefydliad neu gwmni sydd wedi’i gymeradwyo gan Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer unrhyw wasanaethau cyfieithu sydd ei angen. Pan fo’r deunydd yn gyfreithiol, cyfieithir y dogfennau gan gyfreithiwr a benodwyd gan y banc.

Canolfan arbenigol

Mae Barclays yn darparu un man cyswllt ar gyfer ei holl staff ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg, pan fo’i angen. Y man hwn yw Canolfan Gymraeg Barclays, sydd wedi’i leoli yn Hwlffordd.

Monitro ein polisi

Bydd Barclays yn adolygu’n rheolaidd sut y gweithredir ei bolisi dwyieithog ac yn sicrhau gwelliannau pan fo modd.

Cwynion

Bydd Barclays yn ymdrin ag unrhyw gwynion a dderbynnir drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â'i broses arferol o drin cwynion, ac yn ôl rheolau a rheoliadau ein rheolydd sef Awdurdod Rheoleiddio Prudential ag hefyd yr FCA (Awdurdod Gwasanaethau Ariannol). Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.

Hysbysu’n staff

Rhoddir gwybod i staff Barclays yng Nghymru am y polisi dwyieithog.

Hoffech chwi wybod mwy?

I gael mwy o wybodaeth am ein Gwasanaeth Cymraeg cysylltwch â’n Canolfan Gymraeg ar 0333 202 7450. Byddant yn falch o glywed oddi wrthoch.