
Cymru
Bancio gyda ni
Sut i fancio gyda ni trwy gyfrwng y Gymraeg
Darllenwch am ein polisi dwyieithog.
Darganfod sut y gallwch fancio gyda Barclays

Ap Barclays
Rheoli’ch materion ariannol.
Gallwch wirio’ch balans, symud arian o un cyfrif i’r llall neu dalu biliau ar-lein trwy’r ap1.

Darganfod bancio ar-lein
Bancio ar eich cyfrifiadur.
Gallwch fancio’n ddiogel 24/7, a gweld eich balans, rheoli’ch taliadau, gwirio’ch cyfriflenni a llawer mwy.

Mynd i’r gangen i fancio
Mewn rhai o’n canghennau, gallwch siarad â ni yn y Gymraeg.
Os hoffech wneud hyn, bydd ein staff sy’n gwisgo’r bathodyn ‘Cymraeg’ yn hapus iawn i’ch helpu.

Bancio dros y ffôn
Gwasanaeth ffôn Cymraeg.
I siarad ag aelod o’r tîm, ffoniwch ein canolfan Cymraeg ar 0333 202 7450 rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, dydd Llun i ddydd Gwener. Y tu hwnt i’r oriau swyddfa hyn byddwch yn cael eich cyfeirio at ein canolfannau Saesneg.
Gall galwadau cael eu monitro neu recordio er budd ansawdd gwasanaeth. Costau galwadau.
Beth sydd ar gael ar ein ap a’n gwasanaeth Bancio Ar-lein?
Cymharu’r nodweddion sydd ar gael.
Nodweddion | Ap Barclays | Bancio Ar-lein |
---|---|---|
Gweld/lawrlwytho cyfriflenni | ||
Trosglwyddo arian rhwng eich cyfrifon | ||
Talu siec i mewn | Hyd at £1000 am bob siec | |
Rheoli eich archebion sefydlog | ||
Trosolwg manwl o’ch gwariant | ||
Rhoi gwybod bod eich cerdyn debyd wedi’i golli neu ddwyn | ||
Anfon neges atom |
Ffordd gyfleus o reoli’ch arian
Dyma sut i ofalu am eich arian ar-lein a gyda’n ap – maent yn ddiogel, ac yn hawdd i’w defnyddio.

Sut i gofrestru am ap Barclaycard
Pa ddyfais sydd gennych?

Talu eich Barclaycard
A wyddoch y gallwch ddefnyddio’r ap i wneud taliadau diogel i’ch Barclaycard?

Talu siec heb fynd i’ch cangen banc
Mae’n bosib bydd eich arian yn cyrraedd eich cyfrif banc ynghynt os fyddwch yn dewis talu’ch sieciau i mewn drwy’r ap – fel arfer y diwrnod gwaith nesaf.

Cadw trefn ar eich taliadau rheolaidd
Gallwch reoli eich archebion sefydlog a’ch debydau uniongyrchol trwy ap Barclays.

Cadarnhau eich hunaniaeth yn eich ap
Gydag ap ID, byddwn yn anfon neges cyfrinachol atoch ar eich dyfais i sicrhau mai chi sydd yn siarad gyda ni ar y ffôn neu yn y gangen. Ac os byddwn yn eich ffonio chi, gallwch ddefnyddio ap ID i wirio ein dilysrwydd ni.

Gofalu am eich arian gyda’n gwasanaeth Bancio Ar-lein
Os ydych eisiau gwneud rhywbeth syml fel symud arian o un cyfrif i’r llall neu wirio’ch balans, gall ein gwasanaeth Bancio Ar-lein arbed llawer o amser i chi.